Dyfeisiau electrocardiogram (ECG) un golwg (lead-l) llaw

Statws Testun Cyflawn

Dyfeisiau electrocardiogram (ECG) un golwg (lead-l) llaw ar gyfer canfod ffibriliad atrïaidd mewn pobl hŷn a’r rheini sydd yn dioddef ohono bob hyn a hyn

Canlyniad yr arfarniad

 

Ystyriodd Grŵp Asesu HTW y dystiolaeth a gyflwynwyd yn Adroddiad Arfarnu Tystiolaeth 028. Daethant i’r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi datblygu Canllaw gan Banel Arfarnu HTW, ac nid oeddent yn gweld unrhyw werth mewn HTW yn darparu modelu economaidd ychwanegol. Oherwydd hyn, roeddent yn argymell cyhoeddi’r arfarniad fel Crynodeb o Dystiolaeth.

Pam y cafodd y pwnc hwn ei arfarnu?

 

Rhythm annormal ar y galon ydy ffibriliad atrïaidd, ac mae’n cael ei nodweddu gan siambrau atrïaidd y galon yn curo’n gyflym ac yn afreolaidd o ganlyniad i achosion strwythurol a thrydanol. Dyma’r arhythmia cardiaidd mwyaf cyffredin, ac mae’n gysylltiedig ag amrywiaeth o ganlyniadau iechyd difrifol, sy’n cynnwys strôc a methiant y galon. Mae dyfeisiau electrocardiogram (ECG) un golwg (lead-l) llaw wedi cael eu datblygu i asesu rhythm y galon yn gyflym, yn defnyddio dyfeisiau cludadwy.

Gofynnwyd i Technoleg Iechyd Cymru ystyried defnyddio’r dechnoleg hon wrth sgrinio gan bartneriaid sy’n gweithio mewn Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. Cwblhawyd adolygiad o dystiolaeth i fynd i’r afael â thri chwestiwn canlynol: 1) Beth yw cywirdeb diagnostig dyfeisiau electrocardiogram (ECG) un golwg (lead-l) llaw ar gyfer canfod ffibriliad atrïaidd?; 2) Beth yw effeithiolrwydd dyfeisiau electrocardiogram (ECG) un golwg (lead-l) llaw mewn sgrinio unwaith yn unig ar gyfer AF anhysbys mewn pobl dros 65 oed mewn gofal sylfaenol a’r gymuned; 3) Beth yw effeithiolrwydd dyfeisiau electrocardiogram (ECG) un golwg (lead-l) llaw i ganfod ffibriliad atrïaidd ysbeidiol ar ôl cael archwiliad clinigol amhendant?

Crynodeb mewn iaith glir

 

Rhythm annormal ar y galon ydy ffibriliad atrïaidd.  Mae hyn yn gallu digwydd pan fydd problem gyda strwythur y galon. Mae’n gallu digwydd hefyd os oes problemau gyda signalau trydanol sy’n rheoli’r galon. Y canlyniad yw rhythm calon cyflym ac afreolaidd. Dyma’r rhythm calon annormal mwyaf cyffredin. Mae achosion yn gallu para am fwy na saith diwrnod (AF parhaus) neu yn gallu amrywio o ran amlder a hyd (AF ysbeidiol). Mae AF yn gallu cael ei ddatrys heb driniaeth yn y camau cynnar, ond mae achosion ohono yn gallu gwaethygu’n raddol dros amser. Mae hyn yn golygu y gall achosion o AF ysbeidiol ddod yn fwy parhaol, a dim mor hawdd eu trin. Mae pobl sydd yn dioddef o AF yn gallu teimlo bod cyfradd eu calon yn rhy gyflym, yn afreolaidd, neu’n sgipio curiadau ac weithiau, mae’n achosi poen a blinder yn y frest. Fodd bynnag, yn aml, nid yw AF yn achosi symptomau ac mae’n gallu mynd heb ei ddiagnosio am gyfnodau hir o amser. Os na chaiff ei drin, mae AF yn ffactor risg mawr ar gyfer strôc, methiant y galon a chlefydau eraill y galon, ac mae rhywfaint o dystiolaeth bod AF yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o ddementia.

Datblygwyd dyfeisiau electrocardiogram (ECG) un golwg (lead-l) llaw i asesu rhythm y galon yn defnyddio dyfeisiau cludadwy. Mae llawer o wahanol fathau o ddyfeisiau, ond mae’r rhan fwyaf yn dilyn yr un proses sylfaenol. Mae bysedd neu fysedd mawr o’r ddwy law yn cael eu hatodi i ddwy set o electrodau. Yna, mae’r caledwedd yn darllen rhythm y galon sydd yn gallu cael ei ddefnyddio i asesu AF.

Chwiliodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar ddyfeisiau ECG un golwg i helpu i asesu a ydynt yn fuddiol. Canolbwyntiodd HTW ar ddau grŵp o bobl a allai elwa o’r dyfeisiau. 1) Pobl 65 oed neu hŷn a allai fod â AF heb ei ddiagnosio y gellid eu darganfod mewn lleoliadau gofal cynradd neu gymunedol. 2) Pobl sydd â symptomau AF sy’n mynd a dod ac sydd â chanlyniadau asesiad amhendant. Gallai defnyddio dyfeisiau yn y cartref pan fydd symptomau’n ymddangos fod yn ddefnyddiol i’r grŵp hwn.

Adroddiad Archwilio Pwnc

TER173 04.2020

Adolygiad Gwerthuso Tystiolaeth

EAR028 04.2021

Mae ein dogfennau cyngor yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ond buasem yn ddiolchgar pe gallech ein helpu i wella ein gwasanaethau drwy ddweud wrthym pam eich bod chi’n edrych ar ein cyngor.

Hepgor y ffurflen a lawrlwytho ffeil Cau

    Efallai yr hoffem gysylltu â chi trwy e-bost i gael gwybod mwy am sut y gwnaethoch ddefnyddio'r dogfennau.